
Gareth Davies ~ Prif Swyddog Gweithredol
Ebost: gareth@tirdewi.co.uk
Y mae Gareth wedi bod yn rhedeg Tir Dewi ers Tachwedd 2016, ddim yn hir wedi ei sefydlu. ‘Rwy’n cofio ymuno â’r elusen fach leol hon yn rhan-amser a meddwl y byddai’n swydd fach braf i’m cadw’n brysur am dipyn – wyddwn i ddim beth oedd o’m blaen!’ Mae nawr yn arwain sefydliad sy’n gweithredu ar draws y rhan fwyaf o Gymru gyda thîm hynod o staff a gwirfoddolwyr gwybodus ac ymrwymedig.
Y mae Gareth yn byw yn Sir Benfro gyda’i wraig, yn mynychu Capel Penuel, Roch, ac yn ei amser hamdden yn mwynhau beicio (gyda a heb injan) a cherdded gyda’i ddau gi.

Anne May ~ Rheolwr Rhanbarthol, De Cymru
Ebost: anne@tirdewi.co.uk
Yn wreiddiol o Geredigion, yr wyf wedi byw yn Sir Benfro ers ugain mlynedd gyda fy ngŵr a dau blentyn.
Cyn ymuno â Tir Dewi roeddwn yn gweithio fel cyd-lynydd cyfeillgarwch i Volunteering Matters, prosiect a anelir at leihau unigedd ymysg pobl hŷn yn ein cymunedau gwledig yng Ngorllewin Cymru. Y mae fy rôl bresennol yn ffocysu ar recriwtio, hyfforddiant a chefnogi ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig sy’n berchen ar brofiad a chydymdeimlad dibendraw anhygoel.
Rwyf fi wrth fy modd yn cerdded y mynyddoedd a threulio amser ar y traethau ac arfordir prydferth yn Sir Benfro ac fe etifeddais gariad fy nhad at Foryd y Cleddau, ble magwyd ef.

Delyth Fôn Owen ~ Rheolwr Rhanbarthol, Gogledd Cymru
Ebost: delyth@tirdewi.co.uk
Yr wyf wastad wedi bod yn ymwneud ag amaethyddiaeth mewn un ffordd neu’i gilydd, drwy fod yn aelod gweithgar o CFfI yn ifanc, helpu fy nhad gyda’r defaid ar ein fferm ar Sir Fôn, a cymerais yr awennau yno wedi marwolaeth fy nhad. Hyfforddais I fod yn nyrs a gweithio ym myd nyrsio am rai blynyddoedd. Wedyn newidiais cyfeiriad a mynd i Goleg Amaethyddol i astudio Rheolaeth Gyr gwartheg llaeth cyn ymuno ag adran Lles Anifeiliaid Cyngor Sir Môn ble bûm am 19 mlynedd. Gwelais ffermwyr yn brwydro gyda phob math o faterion a dechreuais deimlo’n rhwystredig wrth orfod ganolbwyntio ar orfodi gweithredu, yn hytrach na chanolbwyntio ar eu helpu nhw. Felly, ymunais â Tir Dewi ble nawr rwyn gallu canolbwyntio ar hyn fel Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Yr wyf hefyd wedi bod yn wirfoddolwr gyda CRUSE am nifer o flynyddoedd ac wedi hyfforddi fel cwnsler. Rwyn dal i fyw ar Ynys Môn gyda fy ngŵr a 3 o blant, ac rwyn caru’r ynys,ei thraethau a’i phobl.

Wyn Thomas ~ Rheolwr Prosiect Ymrwymiad a Ffermwyr Ifanc
Ebost: wyn@tirdewi.co.uk
Cefais fy magu ar y fferm deuluol llaeth a defaid yng Ngheredigion, ble rwyf yn dal i chwarae rôl weithgar. Wrth dyfu i fyny, roedd mudiad y Ffermwyr Ifanc yn rhan enfawr o’m bywyd ac yn bersonol fe gefais brofiad di-fesur wrth fod yn aelod. Wedi treulio 15 mlynedd fel gweinidog yn ardal wledig Ceredigion ymunais â Tir Dewi fel Rheolwr Prosiect CFfI ym Medi 2020.
Yr wyf nawr yn byw yn Sir Gaerfyrddin, ble rydym yn bridio peunod a chadw asynnod ar ein tyddyn.