
Ein bwriad yw eich helpu i weld y ffordd orau ymlaen i chi ac i’ch cefnogni wrth i chi gymeryd y camau cywir i gyrraedd yno.
Galwch ein llinell gymorth am ddim:
0800 121 47 22
Ar gael rhwng 7.00 – 22.00 yn Saesneg a Chymraeg
Y mae tair ffordd o gysylltu â ni:
Ffoniwch ein llinell gymorth rhwng 7.00 – 22.00
Anonwch ebost
Llenwch ffurflen hunan-gyfeirio ar-lein
Y mae ein gwirfoddolwyr hyffordedig yn barod i dderbyn eich galwadau rhwng 7.00-22.00, bob dydd a bydd rhywun yn ateb sy’n barod i rannu eich problemau, beth bynnag ydyn nhw, yn fawr neu fach.
Nid ydym yn esgus bod yr ateb i bopeth gennym ond bydd sgwrs yn aml yn gam cyntaf at yr ateb
‘Fe ffoniais i Tir Dewi a theimlo mor falch i allu rhannu fy ngofidiau. Roedden nhw’n gefnogol drwy’r cyfnod ac wedi fy helpu i weld y ffordd ymlaen. Diolch o galon i dîm Tir Dewi’
G, ffermwr yn Sir Gaerfyrddin.
Gallwn helpu i ddatrys eich problemau, eich helpu i’w blaenoriaethu ac yna, gobeithio hyd yn oed i’ch helpu i’w ateb.
Os oes angen mwy o help, y mae gennym rwydwaith gref o arbenigwyr ar draws pob ardal o ffermio y gallwch chi a ninnau droi atynt gyda’n gilydd. Byddwn ni’n gwneud y cyflwyniadau ac yn aros gyda chi am ba hyd bynnag y byddwch ein hangen.
Gallwn fod yn eiriolwr, yn eich cefnogi i gyfathrebu gyda’r rhai sy’n ymwneud â’ch problemau ac hyd yn oed mynd gyda chi i gyfarfodydd os byddai hynny’n help. Gallai hyn gynnwys darparwyr, cwsmeriaid, banciau, cwmniau ariannu neu gynghorwyr.
‘Yr oedd Tir Dewi wedi gallu fy nghysylltu gyda sefydliadau eraill a helpodd ddatrys fy mhroblemau. Roeddwn yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u anogaeth a teimlais yn wir fy mod yn cymeryd y camau cyntaf i’r cyfeiriad cywir.’