Partneriaid a Chyfeiriadau Trydydd Parti

Peidiwch petruso rhag estyn allan gyda’r wybodaeth cysylltu isod, neu anfon neges gan ddefnyddio’r ffurflen.

Y mae ffermwyr a’u teuluoedd yn wynebu ystod enfawr o faterion bob dydd ac nid yw’n syndod nad ydynt, weithiau, yn medru ymdopi!

Nid yw pawb yn gallu gwneud pob peth! Ac y mae hynny hefyd yn wir am Tir Dewi.

Yr ydym yn cynnig cefnogaeth ar bob math o bethau yn cynnwys gweinyddu, cymorth ymarferol, perthynas gydag eraill (a’r teulu), trefnu dilyniant ac hyd yn oed dim ond gwrando.  Ond weithiau, yr ydym yn cydnabod bod eraill a allai wneud yn well mewn ardal arbennig.

Dyma ble daw ein partneriaid i’r fei.

Yr ydym am sicrhau ein bod yn gallu cynnig y gefnogaeth orau bosib i  ffermwr, beth bynnag y bo, naill ai ein hunain neu drwy gyd-weithio â phartneriaid.  Dyna paham yr ydym am ddod i’ch adnabod – os ydych yn gweithio yn y sector ffermio ac yn gallu cynnig cefnogaeth, neu os ydych chi’n cynnig cefnogaeth mwy cyffredinol ar faterion sy’n gallu effeithio ar ffermwyr, yna fe ddylem gael sgwrs.

Y mae ein cefnogaeth am ddim i ffermwyr, ac yr ydym am i hynny fod yn wir am ein partneriaid hefyd.  Ond nid yw bod am ddim yn golygu ansawdd isel a rwyf yn siŵr eich bod chithau’n credu hynny.

Y mae ein cefnogaeth hefyd yn gyfrinachol ac ni fyddwn fyth yn beirniadu ffermwr – waeth beth yw ei amgylchiadau.  Mae’n rhaid i ni gael caniatâd ffermwr i gyfeirio at bartner, ac mae’n rhai i chithau wneud yr un peth i gyfeirio at Tir Dewi – mae hyn yn arfer dda syml, ac yn ymddygiad da.

Os gallwch chi gynnig y gefnogaeth yr ydym yn ei drafod ac yn teimlo y gallai Tir Dewi fod yn rhan ddefnyddiol o’ch rhwydwaith neu’ch ymateb, cysylltwch os gwelwch yn dda.

%d