
Rheolwr Cefnogi Rhanbarthol
Lleoliad: Gogledd Cymru
Gweithio o Gartref
Rhan-amser – 3-4 diwrnod yr wythnos
Cyflog: Tua £25,000 – £30,000 (Pro Rata) yn dibynnu ar brofiad
Lawrlwythwch y Disgrifiad Swydd Llawn (PDF)
Y Sefydliad
Y mae Tir Dewi yn elusen sy’n darparu cefnogaeth i ffermwyr a theuluoedd ffermwyr drwy Linell Gymorth am ddim a Gwasanaeth Cefnogi ar y fferm. Y mae’r gwasanaethau yn cael eu darparu gan dîm o wirfoddolwyr sy â phrofiad, neu empathi gyda ffermio ac wedi derbyn hyfforddiant addas. Y mae’r gefnogaeth a gynigir gennym yn amrwyiol iawn ond yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau ffermwyr, llawer ohonynt yn profi argyfwng. (www.tirdewi.co.uk)
Lansiwyd y gwasanaeth yng Ngogledd-Orllewin Cymru yn 2020 a byddwn yn lansio yn Nwyrain-Orllewin Cymru yn yr haf. Yr ydym nawr yn chwilio am gyd-weithiwr newydd i ddatblygu tîm gwirfoddolwyr a gallu ar draws yr holl ranbarth ac arwain cyflwyniad y gwasanaeth allweddol hwn. Y mae tîm staff bach o 4 yn y rhanbarth.
Y Rôl
Prif rôl holl dîm staff Tir Dewi yw sicrhau bod cymaint o ffermwyr â phosibl yn derbyn cefnogaeth amserol ac addas fel bo’r gofyn. Y mae gennym ddull colegol, yn cyd-weithio at hyn ble disgwylir i bob un o’r tîm i gyfrannu’n llawn i’r nôd hwn. Bydd y rôl yn arwain yn y meysydd hyn:
- Arwain gweithgaredd cefnogol yn y gogledd, gan sicrhau bod y tîm yn ymwneud â, ac yn cefnogi amcanion allweddol.
- Cyd-lynu gweithgaredd gyda’r cyfwerth yn y De, gan adrodd am gynnydd i’r Prif Weithredwr. Monitro a gwerthuso gweithgareddau a chyfrannu at adroddiadau i’r arianwyr a’r ymddiriedolwyr.
- Rheoli gweithgaredd gwirfoddolwyr, gan sicrhau bod yr holl wirfoddolwyr yng nghlwm gymaint â phosibl yn dibynnu ar eu sgiliau, profiad a pharodrwydd i wirfoddoli.
- Sicrhau bod y gwirfoddolwyr mwyaf addas yn cael eu defnyddio ar achosion a rhoi iddynt y gefnogaeth ac arweiniad cywir.
- Gweithio gyda chyd-weithwyr i dyfu galluoedd y tîm gwirfoddolwyr drwy recriwtio, hyfforddiant, cymelliant a chefnogaeth fel bo’n addas.
- Cadw bâs-data ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol eraill.
Y Person
Bydd gennych
- Brofiad o reoli neu gydlynu prosiectau a gwirfoddolwyr neu brofiad y gellir ei drosglwyddo mewn rôl tebyg.
- Empathi gyda’n cymuned darged, ffermwyr a’u teuluoedd. Efallai eich bod o gefndir ffermio neu gymuned ffermio eich hun.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn y Gymraeg a Saesneg.
- Y gallu i ddelio gyda gwybodaeth mewn modd cyfrinachol ac ymateb gyda sensitifrwydd.
- Sgiliau arwain a threfnu rhagorol, yn ddelfrydol yn cynnwys defnyddio bâs-data er mwyn cadw cofnod ac adrodd.
Cyflog
Y mae hon yn rôl rhan-amser tua 3-4 diwrnod yr wythnos a gall fod yn swydd i’w rhannu. Sut bynnag y bydd yn cael ei threfnu, bydd o hyd angen am hyblygrwydd wrth ei gwneud yn cynnwys gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Mewn ymateb i’ch ymroddiad byddwn yn cynnig cyflog o tua £25-30,000 (yn cyfateb i lawn- amser)y flwyddyn pro rata, yn dibynnu ar brofiad. Yn ychwanegol , y mae cynllun pensiwn budd-ddeiliaid a telir costau teithio.
Trefnwyd y bydd y rôl yn Seiliedig Gartref ond gellir cynnig lle mewn swyddfa i’r ymgeisydd iawn os oes angen.
I Ymgeisio
Am fwy o wybodaeth gan gynnwys Disgrifiad Swydd ewch i www.tirdewi.co.uk. Anfonwch CV a llythyr amgaëdig at gareth@tirdewi.co.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiwn na fydd wedi ei ateb yn y ddogfen hon, galwch 01348 837600. Diwrnod cau y ceisiadau yw Gorffennaf 16fed 2023.