Lleoliad: Sir Fôn, Conwy a Gwynedd
Cyflog: Tua £12,000 am 2.5 diwrnod yr wythnos
Gweld / Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Rheolwr Gwirfoddoli Rhanbarthol Gogledd Cymru
Y Rôl
Fel cydlynydd gwirfoddolwyr, bydd gennych y cyfrifoldebau hyn:
- Arwain datblygiad y tîm o wirfoddolwyr yn yr ardal gan gynnwys denu gwirfoddolwyr newydd.
- Trefnu sefydlu a’r sicrhad diogelu addas i ‘r gwirfoddolwyr.
- Trefnu a rheoli hyfforddiant gwirfoddolwyr, o fewn y sefydliad a gan ddarparwyr allanol.
- Rheoli gweithgaredd gwirfoddolwyr, gan sicrhau bod yr holl wirfoddolwyr yn ymwneud gymaint â phosib yn dibynnu ar eu sgiliau, profiad a bodlonrwydd i wirfoddoli.
- Monitro, cefnogi a symbylu gwirfoddolwyr.
- Helpu i adolygu a diweddaru polisiau a dulliau gweithredu gwirfoddolwyr.
- Creu a chadw cofrestr leol o wirfoddolwyr.
- Trefnu a gweithredu cyfarfodydd gwirfoddolwyr i sicrhau bod arfer dda yn cael ei chadw o fewn y sefydliad.
- Adnabod bylchau sgiliau ac ardaloedd lle mae prinder gwirfoddolwyr a denu er mwyn llenwi y bylchau hyn yn arbennig.
- Darparu a rheoli cefnogaeth i wirfoddolwyr, yn enwedig y rhai sy’n delio ag achosion anodd.
- Hybu gwirfoddoli i Tir Dewi drwy recriwtio a strategaethau hysbysebu ac ymgyrchoedd.
- Trefnu amserlenni gwirfoddolwyr.
- Sicrhau ad-daliad costau yn amserol a chywir.
- Cadw i fyny gyda chyfraith a pholisiau yn ymwneud â gwirfoddoli a gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gynnwys y newidiadau.
- Monitro a gwerthuso gweithgareddau a chyfrannu at adroddiadau i’r arianwyr ac ymddiriedolwyr.
- Cadw bâs – data a gwneud dyletswyddau gweinyddol eraill.
Bydd y rôl yn un yn seiliedig ar weithio yn y cartref ond gellir cynnig lle mewn swyddfa i’r ymgeisydd cywir os bydd ei angen.
Y mae’r tîm staff Tir Dewi yn fach ac yr ydym i gyd yn cefnogi’r aelodau eraill ble bynnag y gallwn. Bydd hyn yn arbennig o wir gyda’r Rheolwr Rhanbarthol yn Ne’r wlad a fydd yn rhannu ein profiadau gyda chi er mwyn eich cefnogi ac adeiladu ymdeimlad o dîm. Bydd cyfle arwyddocaol i Reolwr Gwirfoddolwyr Rhanbarthol i wneud ei farc/ei marc ar draws yr elusen.
Manyleb Person
Fel Rheolwr Gwirfoddolwyr Rhanbarthol Tir Dewi bydd gennych y profiad o reoli’n annibynnol dimau o wirfoddolwyr neu eraill sy’n ymwneud â phrosiectau ac o gyfrannu at reolaeth mudiad mewn modd llawn ac effeithiol.
Yn ddelfrydol byddwch ag empathi gyda’n cymuned darged, ffermwyr a’u teuluoedd. Gallech fod o gefndir ffermio neu mewn cymuned ffermio eich hun.
Y sgiliau pennaf y bydd gennych yw:
- Profiad o reoli neu gyd-lynnu prosiectau a gwirfoddolwyr neu brofiad cyfnewidiol mewn rôl debyg.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a Saesneg.
- Sgiliau rhyng-bersonol cryf a’r gallu i ddelio gydag ystod eang o bobl.
- Empathi gyda gwirfoddolwyr a dealltwriaeth o’u hanghenion a’r amynedd i’w cefnogi.
- Y gallu i ysbrydoli a symbylu eraill.
- Y gallu i ddelio gyda gwybodaeth mewn ffordd gyfrinachol ac ymateb yn sensitif.
- Byddwch yn drefnus iawn gyda sgiliau gweinyddol a TG da, a’r gallu i gadw cofnodion a chynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig a llafar clir.
- Y gallu i greu a chadw cofnodion, ar bapur ac yn ddigidol ac i ddarparu dadansoddiad o waith er mwyn cefnogi penderfyniadau a wneir.
- Agwedd ystwyth ac anfeirniadol at bobl a gwaith.
Fel elusen, mae angen arnom gyd-weithiwr sydd â’r gallu i ymdopi ag ystod o ofynion, cymeryd cyfleon a meddwl yn greadigol. Bydd arnoch angen drwydded yrru cyflawn a defnydd car, er mwyn ymweld â mudiadau a gwirfoddolwyr.
Y mae Tir Dewi yn cynnig gwasanaeth dwyieithog yn y Gymraeg a Saesneg ac y mae’n angenrheidiol eich bod yn rhugl yn y Gymraeg.
Cyflog
Y mae hon yn rôl rhan-amser o 20 awr yr wythnos. Tra gall fod hyblygrwydd wrth weithio yr oriau hyn bydd angen rhywfaint o waith gyda’r nos ac ar benwythnos. O dderbyn eich ymroddiad byddwn yn cynnig cyflog o tua £12,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad. Yn ychwanegol, y mae cynllun pensiwn deiliaid diddordeb a byddwn yn talu eich costau teithio.
I Ymgeisio
A wnewch chi anfon CV a llythyr amgaedig at gareth@tirdewi.co.uk. Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb yn y ddogfen hon, galwch 01348 837600. Dyddiad cau’r ceisiadau yw 3 Ebrill 2022.