Fel elusen, y mae Tir Dewi yn dibynnu’n gyfangwbl ar haelioni eraill i allu darparu eu gwasanaethau.
Yn ogystal â derbyn grantiau oddi wrth y rhai a enwir isod, yr ydym hefyd yn derbyn nifer arbennig o roddion gan unigolion, clybiau, grwpiau, eglwysi a chapeli. Weithiau o gasgliad neu o boced unigolyn, a weithiau o ganlyniad i ddigwyddiad neu sialens. Y mae amrywiaeth rhain yn anhygoel ac mae maint y rhoddion yn syfrdanol.
Yr ydym yn ddiolchgar i bob un ohonoch, beth bynnag bo’r swm, am eich rhoddion ac am feddwl am Tir Dewi fel yr elusen y dymunwch ei chefnogi. Oherwydd eich cefnogaeth chi, fe allwn ninnau, yn ein tro, gefnogi ein ffermwyr a’u teuluoedd.
Os hoffech chi wneud cyfraniad y mae sawl ffordd i wneud hynny:
Just Giving – cliciwch ar y logo porffor ‘Just Giving’ a bydd yn mynd â chi i dudalen taliad ar lein. Bydd gennych chi 4 dewis o dalu naill ai drwy symud arian banc diogel (dim ond bod gyda chi gyfri banc DU dilys, a hon yw’r ffordd hawsaf i anfon cyfraniadau i Tir Dewi), Google Pay, PayPal, cardiau credyd neu ddebyd.
Os oes siec neu arian parod gyda chi, ffoniwch 01348 837600 ac fe ddywedwn wrthych sut i’w cael atom ni.