

Yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Tyddewi)
Un o’n arianwyr gwreiddiol. Wrth gadw at ei ethos Cristnogol, y mae’r Eglwys Yng Nghymru (esgobaeth Tyddewi) yn cynnig cefnogaeth nid yn unig i ffermwyr sy’n Gristnogion, ond i bob ffermwr sydd ei angen, pa un ai oes ganddynt ffydd neu beidio. Nid yw ein holl wirfoddolwyr yn Gristnogion.

Cronfa Cefngwlad y Tywysog
Hefyd yn un o’n arianwyr gwreiddiol sydd wedi parhau gyda ni ac wedi ein cefnogi dro ar ôl tro. Y mae Tywysog Cymru yn gefnogwr brwd o gefngwlad, amaethyddiaeth a chymunedau gwledig, gan sefydlu y gronfa hon yn 2010 i wella rhagolygon ffermydd ac ansawdd bywyd gwledig.

Y Loteri Genedlaethol
Wedi gweld ein gwaith a gwerthuso ein cynlluniau, y mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn hael wrth roi cefnogaeth ariannol er mwyn galluogi prosiectau newydd a lawnsiadau i ardaloedd newydd.

Sefydliad Rank, Rhaglen Time to Shine
Buom yn rhan o grŵp gyda 8 elusen arall yn gweithredu ar draws Cymru i ffurfio Llech,Glo a Chefn Gwlad. Cafodd hwn ei ariannu gan raglen Time to Share yn cynnig pob un ohonom intern i weithio gyda ni am gyflog byw a arianwyd ganddynt.
Hefyd Cronfa Ystwythder Trydydd Sector i Gymru, a Chronfa Ystwythder Coronafeirws Cymru, a sefydlwyd fel ymateb i’r argyfwng COVID-19, Uwch Siryf Dyfed, Cronfa Mutual Trust NFU, Cronfa Bluestone, Cronfa Elusennol Henhurst a llawer mwy.
Hefyd sawl unigolyn sy wedi sefydlu ffyrdd o godi arian gyda phopeth o arwerthiannau, sialensau ffitrwydd ac hyd yn oed eillio gwallt yn fyw ar YouTube. Yr ydych i gyd yn wych!