Ein manylion cyswllt
Enw’r Mudiad:Tir Dewi
Cyfeiriad:
Middle Tancredston Farm,
Haycastle,
Hwlffordd,
Sir Benfro,
SA62 5PX
Rhif ffôn: 0800 121 4722 / 01348 837600
E-bost: mail@tirdewi.co.uk
Beth a wnawn
Elusen ydym ni, yn gofrestredig gyda Chomisiwn Elusennau, Rhif 1179204. Yr ydym yn darparu cefnogaeth i ffermwyr a’u teuluoedd ar draws Cymru sy angen ein help. Yr ydym yn gwrando ar eu problemau ac yn eu helpu i ddod o hyd i atebion. Y mae ein cefnogaeth yn gyfrinachol, heb feirniadaeth ac am ddim.
Yn Tir Dewi yr ydym yn ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd a bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro sut y gwnawn hynny.
Sut byddwn ni’n cael y wybodaeth bersonol
Y mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol yr ydym yn ei brosesu yn dod yn uniongyrchol atom oddi wrthych chi.
Yr ydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn ymwneud â chlientiaid yn anuniongyrchol drwy gyfeirio am help oddi wrth ein partneriaid neu unigolion pryderus.
Y math o wybodaeth bersonol a gesglir
Yr ydym ar hyn o bryd yn casglu a phrosesu gwybodaeth am wahanol grwpiau o bobl. Y mae rhain yn cynnwys:- staff, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth/cleientiaid/ ffermwyr (cleientiaid), galwyr i’n Llinell gymorth, rhoddwyr, partneriaid a chysylltiadau defnyddiol eraill. Gall y math o wybodaeth a gesglir a’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arno i’w brosesu ddibynnu ar pa un o’r grwpiau hyn yr ydych ynddo.
Staff
Yr ydym yn casglu a phrosesu y wybodaeth ganlynol am ein staff:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cenedligrwydd (os byddwch yn hapus i’w roi)
- Rhyw (os byddwch yn hapus i’w roi)
- Anableddau (os byddwch yn hapus i’w roi)
- Euogfarnau troseddol ac archwiliadau CRB
- Manylion banc
- Cofnod cyflogaeth megis adolygiadau rheolaidd gyda’ch rheolwr llinell
O dan Ddeddf Gwarchod Data Cyffredinol DU (GDPR) y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arno er mwyn prosesu y wybodaeth hon yw:
Y mae gennym ymrwymiad contract.
Gall fod angen i ni rannu rhywfaint o’ch data personol gyda thrydydd grŵp megis HMRC, ein cyfrifwyr/darparwyr rhestr cyflogau, gwirfoddolwyr a chleientiaid Tir Dewi a’n partneriaid fel bo’n addas. Ble mae’n rhaid i ni wneud hyn byddwn yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r angen a’ch bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny onibai bod Diddordeb Cyfreithlon ar ein rhan ni neu chwithau yn ymwneud â’r gofyn.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth am 7 mlynedd wedi i’ch cyflogaeth gyda ni ddod i ben. Yna byddwn yn gwaredu eich data personol drwy ddileu y cofnod electronig a bydd unrhyw gofnod papur yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.
Gwirfoddolwyr
Yr ydym yn casglu a phrosesu y wybodaeth ganlynol am ein gwirfoddolwyr:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriad ebost
- Anableddau (os byddwch yn hapus i’w rhoi)
- Euogfarnau troseddol ac archwiliadau CRB
- Manylion Banc
- Cofnodion y gwaith a wnewch ar achosion
- Treuliau a hawliau milltiroedd
O dan Ddeddf Gwarchod Data Cyffredinol DU (GDPR) y Sylfaen gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arno er mwyn prosesu y wybodaeth hon yw:
Eich caniatâd.
Yr ydych yn gallu tynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Tir Dewi.
Y mae mwy o wybodaeth yn eich Cytundeb Gwirfoddolwyr gyda ni a amlinellir yn y Llawlyfr Gwirfoddolwyr a roddir i chi.
Efallai bydd rhaid i ni rannu rhywfaint o’ch data personol gyda thrydydd grŵp megis ein banc, staff a chlientiaiad Tir Dewi a’n partneriaid ble mae’n berthnasol. Pan fydd angen gwneud hyn byddwn yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r angen ac yn cael eich caniatâd i wneud hyn onibai bod Diddordeb Cyfreithlon ar ein rhan ni neu chwithau yn ymwneud â’r gofyn.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth am 7 mlynedd wedi i chi wirfoddoli gyda ni. Yna byddwn yn gwaredu eich data personol drwy ddileu y cofnod electronig a bydd unrhyw gofnod papur yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.
Defnyddwyr y gwasanaeth/Cleientiaid/Ffermwyr
Gall ein gwaith gyda chleientiaid barhau yn aml am sawl wythnos neu hyd yn oed fisoedd. Yn ystod yr amser hwn byddwn yn casglu a phrosesu y wybodaeth ganlynol arnoch:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriad ebost
- Math o fferm
- Manylion y broblem
- Manylion iechyd
Os byddwch yn cysylltu â ni’n uniongyrchol am gymorth, yna y sail cyfreithiol am ddal gafael ar y wybodaeth yn aml yw Diddordeb Cyfreithlon. Gan eich bod yn gofyn am gymorth y mae gennym Ddiddordeb Cyfreithlon mewn gwybod pethau amdanoch a fyddai’n berthnasol i ni er mwyn i ni allu darparu’r gefnogaeth. Y mae eich Diddordeb Cyfreithlon hefyd yn glir gan eich bod wedi gofyn am y cymorth hynny.
Wrth i ni ddechrau gweithio gyda chi, yna efallai y byddwn yn gofyn am ganiatâd i barhau i gadw eich data.
Yn ystod y cyfnod o ddarparu cefnogaeth, gall fod angen i ni gysylltu â mudiad arall naill ai i’ch cefnogi yn eich perthynas â nhw neu i ofyn iddynt gyflwyno cefnogaeth ychwanegol. Byddwn o hyd yn gofyn am eich caniatâd cyn i ni gyfeirio at un o’n mudiadau partner. Y mae data anhysbys a chyfanrhediad hefyd yn cael ei rannu gyda ein noddwyr yn flynyddol.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 7 mlynedd o ddyddiad y cysylltiad diwethaf gyda chi. Yna byddwn yn gwaredu eich data personol drwy ddileu y cofnod electronig a bydd unrhyw gofnod papur yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.
Galwyr i’n llinell gymorth
Atebir ein Llinell Gymorth Am ddim gan wirfoddolwyr. Yn ystod yr alwad, efallai y byddant yn ceisio cael y wybodaeth yma gennych megis:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriad ebost
- Math o fferm
- Manylion y broblem
- Manylion iechyd
Nid yw pob galwr yn hapus i ddatgelu gwybodaeth ar yr amser hwn, ond, os y byddwch, byddwn yn dal y wybodaeth ar sail cyfreithlon Diddordeb Cyfreithlon. Gan eich bod yn gofyn am gefnogaeth y mae gennym Ddiddordeb Cyfreithlon mewn gwybod pethau amdanoch a fyddai’n berthnasol i ni er mwyn darparu’r gefnogaeth honno. Y mae eich Diddordeb Cyfreithlon yn glir oherwydd i chi ofyn am y gefnogaeth honno.
Wrth i ni ddechrau gweithio gyda chi, efallai y byddwn yn gofyn am eich caniatâd i barhau i gadw eich data.
Yn ystod y cyfnod o gynnig cefnogaeth, gall bod angen i ni gysylltu â mudiad arall naill ai i’ch helpu yn eich perthynas â nhw neu i ofyn iddynt am gefnogaeth ychwanegol. Byddwn wastad yn gofyn am eich caniatâd cyn gwneud unrhyw gyfeirio at un o’n asiantaethau partner. Gallwch dynnu eich caniatâd i ffwrdd unrhyw bryd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Tir Dewi:
Y mae data anhysbys a chyfanrhediad yn cael ei rannu gyda ein noddwyr yn flynyddol.
Mynychwyr digwyddiadau a chefnogwyr
Os byddwch yn mynychu digwyddiad a gynhelir gennym, neu os byddwch yn cynnig ein cefnogi mewn rhyw fodd heb gofrestru fel Gwirfoddolwr, yna efallai y byddwn yn gofyn am rai manylion megis:
- Enw
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriad ebost
Y sail cyfreithiol yr ydym yn cadw’r wybodaeth hon yw:
Eich caniatâd. Yr ydych yn gallu tynnu eich caniatâd yn ôl unrhywbryd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Tir Dewi.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 7 mlynedd yn dilyn ein cysylltiad diwethaf gyda chi. Yna byddwn yn gwaredu eich data personol drwy ddileu y cofnod electronig a bydd unrhyw gofnod papur yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.
Rhoddwyr
Fel elusen, yr ydym yn dibynnu ar dderbyn rhoddion ac wrth ein bodd bod cymaint ohonoch yn ein cefnogi yn y ffordd hon. Os byddwch yn gwneud cyfraniad efallai y byddwn yn gofyn am rai manylion megis:
- Enw a manylion cyswllt
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriad ebost
Y sail cyfreithiol yr ydym yn cadw’r wybodaeth hon yw Caniatâd oherwydd y byddem am gael hyn wrth i ni ofyn am y wybodaeth. Yr ydych yn gallu tynnu eich caniatâd yn ôl unrhywbryd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Tir Dewi.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 7 mlynedd yn dilyn ein cysylltiad diwethaf gyda chi. Yna byddwn yn gwaredu eich data personol drwy ddileu y cofnod electronig a bydd unrhyw gofnod papur yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.
Partneriaid, Partneriaid Ariannu a chysylltiadau defnyddiol eraill
Yr ydym yn gweithio gyda nifer enfawr o Bartneriaid ac eraill. Gallai rhain gynnwys elusennau eraill yn ymwneud â ffermio, elusennau cenedlaethol neu leol, yr heddlu, cyrff GIG, awdurdodau lleol a llawer mwy. Yr ydym hefyd yn cael ein cefnogi gan nifer o Bartneriaid Ariannu, na allem wneud yr hyn a wnawn hebddynt.
Os ydym yn gweithio gyda chi, yna byddwn yn cadw gwybodaeth sylfaenol amdanoch megis:
- Enw a manylion cyswllt
- Cyfeiriad
- Rhifau ffôn
- Cyfeiriad ebost
Drwy roi’r wybodaeth hon i ni yr ydych yn gwneud hynny gan ganiatau i ni ei gadw oherwydd ei fod yn angenrheidiol er mwyn i ni gyd-weithio.
Efallai bydd angen rhoi manylion cleient i chi. Os hynny, byddwn wastad yn gofyn am eu caniatâd i wneud hynny o flaen llaw. Os byddwch yn cyfeirio cleient i ni yna mae’n angenrheidiol eich bod wedi cael eu caniatâd cyn gwneud hynny a gall ein staff a gwirfoddolwyr ofyn i chi gadarnhau eich bod wedi gwneud hynny.
Byddwn yn cadw’r wybodaeth am 7 mlynedd yn dilyn ein cysylltiad diwethaf gyda chi. Yna byddwn yn gwaredu eich data personol drwy ddileu y cofnod electronig a bydd unrhyw gofnod papur yn cael ei ddinistrio’n ddiogel.
Cyfarfodydd Zoom
Efallai y byddwn yn trefnu cyfarfodydd gan ddefnyddio platfform ar lein Zoom. Gall y cyfarfodydd hyn gael eu recordio a byddwn yn gofyn am eich caniatâd drwy flwch clic a fydd yn ymddangos ar y sgrin cyn dechrau’r recordiad a’i ddefnyddio am hyfforddiant neu bwrpas hysbysebu neu ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol (https://zoom.us/privacy). Gallwch naill ai gytuno a derbyn y recordiad, cytuno a diffodd eich camera os ydych chi’n hapus i’r sesiwn gael ei recordio ond heb fod yn weladwy, neu beidio cytuno naill ai drwy ddweud wrth drefnydd y cyfarfod fel nad yw’n cael ei recordio neu wrth glicio ar y blwch cywir a gadael y cyfarfod.
Sut byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei gadw’n ddiogel ar gliniaduron staff a thrwy ddefnyddio ein darparwyr bas-data trydydd person Lamplight. Gweler system breifatrwydd a diogelwch data Lamplight.
Eich hawliau diogelwch data
O dan gyfraith diogelwch data DU, y mae gennych hawliau yn cynnwys:
Eich hawl i weld – Y mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopiau o’ch gwybodaeth bersonol
Eich hawl i gywiro – Y mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol y credwch sy’n anghywir. Y mae hefyd gennych yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch sy’n annigonol.
Eich hawl i ddileu – Y mae gennych yr hawl i ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu prosesu – Y mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Y mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i symud data – Y mae gennych yr hawl i ofyn ein bod yn symud y wybodaeth bersonol a roddwyd i ni i fudiad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.
Nid oes angen i chi dalu am wireddu eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, y mae gennym un mis i’ch ateb.
Cysylltwch â ni ar mail@tirdewi.co.uk neu 01348 837600 os hoffech chi wneud cais.
Sut i wneud cwyn
Os oes gennych urhyw ofidiau am ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn i ni ar mail@tirdewi.co.uk.
Swyddog Gwarchod Data: Gareth Davies
Os ydych chi’n anhapus gyda’n ffordd o ddelio gyda’ch cwyn, gallwch gwyno i’r ICO.
Cyfeiriad yr ICO:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhi Llinell Gymorth : 0303 123 1113
Gwefan ICO : https://www.ico.org.uk