Sut allwch chi helpu

Dywedwch wrth ffermwyr amdanom ni

Mae’n rhaid i ni roi gwybod i ffermwyr ein bod ni yma ac y gallwn helpu.  Cymerwch y cyfle i siarad am Tir Dewi pryd bynnag cewch y cyfle.  Y mae ffermwyr yn aml yn ynysig ac yn amharod i ddweud wrth unrhywun bod problem gyda nhw;  gallai dweud wrthynt am Tir Dewi roi’r cyfle iddynt i ddechrau dod o hyd i ateb. 

Cysylltwch â ni: info@tirdewi.co.uk neu 0800 121 4722

Gwirfoddolwch

Gallai hyn fod yn treulio amser mewn Marchnad Anifeiliaid yn sôn wrth ffermwyr am Tir Dewi neu ateb y Llinell Gymorth neu hyd yn oed weithio gyda ffermwyr unigol i helpu ateb eu problemau.  Os ydych chi’n teimlo bod gennych y sgiliau a’r amser i wneud unrhyw un o’r rhain cysylltwch â ni.

Gwnewch Rodd

Yr ydym yn elusen ac yn dibynnu ar haelioni pobl leol i’n helpu i wneud ein gwaith.  Os allwch chi wneud rhodd neu gyfraniad, cysylltwch â ni neu ewch i’n tudalen Rhoddi.

Helpu gyda Chyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni ar ein sianelau Cyfryngau Cymdeithasol ac lledaenu’r wybodaeth am ein gwasanaeth cefnogi fferm.

  • ‘Hoffwch’ ein tudalen Facebook
  • ‘Dilynwch’ ni ar Twitter ac Instagram
  • ‘Tanysgrifiwch’ i’n Sianel YouTube

%d