Ein Ffermio, Ein Dyfodol

Ym mis Gorffennaf 2024, lansiwyd prosiect sy’n ceisio mynd i’r afael â risg hunanladdiad yn y gymuned ffermio gan Samaritans Cymru a’r elusen gymorth ffermio Tir Dewi.

English / Cymraeg

Nod y prosiect ‘Ein Ffermio, Ein Dyfodol’ yw datblygu cydnerthedd cymunedol drwy roi’r arfau i ffermwyr ifanc wneud gwahaniaeth yn eu bywydau eu hunain, yn ogystal â chanfod ffyrdd o edrych ar ôl eu hunain a’r bobl o’u cwmpas er mwyn sicrhau y caiff mwy o bobl y cymorth sydd ei angen arnynt a lleihau eu risg hunanladdiad yn y pendraw.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant i fwy na 100 o ffermwyr ifanc a myfyrwyr amaethyddiaeth yng Nghymru, mae Samaritans yn gweithio’n agos â ffermwyr ifanc er mwyn sicrhau y caiff negeseuon ac adnoddau perthnasol eu creu a’u rhannu yn y gymuned.

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru’n cymryd rhan hefyd ac yn cefnogi Samaritans Cymru, sy’n cynnal gweithgareddau amrywiol gan gynnwys gweithdy ‘Gwrando’, sesiynau celf a gweminar, i godi ymwybyddiaeth a helpu i bobl ifanc deimlo y gallant siarad yn fwy agored am eu profiadau, gofalu am ei gilydd, dod yn wrandawyr gwell a cheisio cymorth.

Mae’r ffermwyr ifanc William Meadmore ac Elin Lewis yn rhoi eu cefnogaeth lawn i’r prosiect, ac yn angerddol dros rymuso pobl ifanc i weithredu er mwyn helpu i leihau nifer yr hunanladdiadau yn y gymuned ffermio.

Mae Elin a William wedi rhannu eu negeseuon mewn dwy ffilm fer, sy’n cael eu gwylio gan aelodau CFfI a myfyrwyr, a’u rhannu’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Trwy’r ddwy stori fideo, rydym yn bwriadu:

  • Lleihau stigma trwy rannu straeon go iawn.
  • Grymuso ffermwyr ifanc i rannu eu straeon a’u profiadau, ac i siarad am dopigau anodd.
  • Annog ymddygiad sy’n ceisio cymorth a chefnogi cyfoedion, hyrwyddo gwrando gweithredol a chodi ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r cymorth sydd ar gael.
  • Codi ymwybyddiaeth am y prosiect a hyfforddiant i ffermwyr ifanc.

This project is being supported by NFU Mutual Trust and the Moondance Foundation.

Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim: 0800 121 47 22

Mae tair ffordd y gallwch gysylltu â ni:

Ffoniwch ein llinell gymorth rhwng 7:00-22:00

Anfonwch e-bost atom

Cwblhewch ein ffurflen hunangyfeirio ar-lein.