
Y mae ein gwirfoddolwyr yn angenrheidiol i waith Tir Dewi. Maent yn gallu eich cefnogi drwy pob sefyllfa anodd y gallech fod yn wynebu, ac os nad ydynt yn gwybod yr ateb, bydd un o’n partneriaid siŵr o wneud.

Meddai Eileen,
“Yr ydym yn cerdded, gwrando ac estyn llaw o arweiniad i gefnogi holl ffermwyr ar draws Cymru. Ond ni allen ni wneud hyn heb waith caled tu hwnt yr holl wirfoddolwyr, ac yr wyf fi’n bersonol am ddiolch yn fawr am eich ymroddiad a’ch ymrwymiad wrth sicrhau bod ein ffermwyr yn cael eu clywed, eu caru a’u cynnal hyd nes iddynt ddod o hyd i’w llwybrau eu hun, a’u cryfhau i wynebu’r sialensau a ddaw yn ein diwydiant amaethyddol“

Y mae Jeni wedi bod yn gwirfoddoli gyda Tir Dewi ers dros 5 mlynedd, darllenwch pam y dechreuodd isod.
“Rwyf fi’n gwirfoddoli i Tir Dewi achos mod i’n dyddynwr felly ar gyrion y byd ffermio. Yr wyf wedi dysgu llawer mwy gan y teuluoedd ffermio yr ymwelais â nhw fel gwirfoddolwr. Yr wyf wedi eu helpu drwy wrando llawer, gwneud ambell beth ymarferol ac yn bennaf bod yn bâr o lygaid ffres wrth iddynt geisio datod y materion sy’n eu wynebu. Dwyf fi yn arbenigwr ond rwyn gofidio digon i fynd atyn nhw, a ceisio deall”
“Pe na bai am allu gael ein help a’n byddin o wirfoddolwyr gwych, byddai’r bobl hyn wedi parhau i frwydro ymlaen heb gymorth’“
Sharon

Meddai Sharon
“Mae y rhan fwyaf o’m gwaith gyda Tir Dewi ar y llinell gymorth dau ddiwrnod yr wythnos pan fyddwn yn derbyn amrywiaeth o alwadau, rhai yn argyfyngus a rhai yn llai, ond credaf bod pob galwad a dderbyniwn yn haeddu cael ei thrafod gyda pharch a hwylustod. Gallai’r hyn sy i’w glywed yn ddibwys i ni fod y cam olaf cyn creu dinistr i ffermwr sy’n delio â sefyllfaoedd argyfyngus o ddydd i ddydd. Rwyn clywed yn aml bod cleient yn galw gyda ‘phroblem gwaith papur’ ond wedi holi daw’n amlwg bod nifer fawr o bethau eraill tu ôl i’r alwad am help. Pe na bai modd i gael ein cymorth a’n byddin o wirfoddolwyr bendigedig, byddai’r bobl hyn wedi parhau i frwydro ymlaen heb gymorth.”
“Credaf bod pob galwad a dderbyniwn yn haeddu cael ei thrin â pharch ac hwylustod.”
Sharon
