Ar gael 365 diwrnod y flwyddyn

0800 121 47 22

Cefnogaeth Gwbl Gyfrinachol

Yn y Gymraeg a’r Saesneg

Ein Prosiectau

Ym mis Gorffennaf 2024, lansiodd Samariaid Cymru a’r elusen cefnogi ffermwyr Tir Dewi brosiect i fynd i’r afael â’r risg o hunanladdiad o fewn y gymuned ffermio.

Nod prosiect ‘Ein Ffermio, Ein Dyfodol’ yw adeiladu gwydnwch cymunedol drwy arfogi ffermwyr ifanc yn well i wneud gwahaniaeth i’w bywydau eu hunain, yn ogystal â nodi sut i ofalu amdanynt eu hunain a’r rhai o’u cwmpas, er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac, yn y pen draw, leihau’r risg o hunanladdiad.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant i dros 100 o ffermwyr ifanc a myfyrwyr amaethyddol yng Nghymru, mae Samariaid yn gweithio’n agos gyda ffermwyr ifanc i sicrhau bod negeseuon ac adnoddau perthnasol yn cael eu creu a’u rhannu o fewn y gymuned.

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru hefyd yn cymryd rhan ac yn cefnogi Samariaid, sy’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gweithdy ‘Gwrando’, sesiynau celf a gweminar, i godi ymwybyddiaeth ac i helpu pobl ifanc i deimlo’n fwy hyderus i siarad yn agored am eu profiadau, edrych allan am ei gilydd, dod yn wrandawyr gwell a cheisio cymorth.

Mae’r ffermwyr ifanc William Meadmore ac Elin Lewis yn cefnogi’r prosiect yn llawn ac yn teimlo’n angerddol am rymuso pobl ifanc i weithredu er mwyn helpu i leihau hunanladdiadau o fewn y gymuned ffermio.

“Mae’n rhaid i ni ddysgu dod yn wrandawyr gwell a gofalu am ein gilydd cystal ag yr ydym yn gofalu am ein hanifeiliaid a’n cnydau.”

Will Meadmore, Ffermwr ifanc

Mae Elin a William wedi rhannu eu negeseuon mewn dwy ffilm fer, sy’n cael eu gwylio gan aelodau CFfI a myfyrwyr, ac sy’n cael eu rhannu’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol.

Drwy’r ddwy stori fideo, ein nod yw:

samaritains 1

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth NFU Mutual a Sefydliad Moondance.

Ffoniwch ein llinell gymorth rhadffôn: 0800 121 47 22

Mae tair ffordd y gallwch gysylltu â ni:

Ffoniwch ein llinell gymorth rhwng 7:00 a 22:00

Anfonwch e-bost atom

Cwblhewch ein ffurflen hunangyfeirio ar-lein.

Scroll to Top