Ar gael 365 diwrnod y flwyddyn

0800 121 47 22

Cefnogaeth Gwbl Gyfrinachol

Yn y Gymraeg a’r Saesneg

Eich Cefnogi Chi
CAEL CEFNOGAETH

Ein nod yw eich helpu i weld y ffordd orau ymlaen i chi a'ch cefnogi i gymryd y camau cywir i gyrraedd yno.

Ffoniwch ein llinell gymorth am ddim: 0800 121 47 22

Ar gael rhwng 7:00am a 10:00pm yn Saesneg a Chymraeg.

Mae tair ffordd y gallwch gysylltu â ni:

Ffoniwch ein llinell gymorth rhwng 7:00-22:00

Anfonwch e-bost atom

Cwblhewch ein ffurflen hunangyfeirio ar-lein.

Mae ein gwirfoddolwyr hyfforddedig yn barod i dderbyn eich galwadau rhwng 7:00 – 22:00, bob dydd a byddant yn cael eu hateb gan rywun sy'n barod i rannu eich problemau, beth bynnag ydynt, pa mor fawr neu fach bynnag. Nid ydym yn esgus bod gennym yr ateb i bopeth ond yn aml, sgwrs yw'r cam cyntaf tuag at ddatrysiad.

Gallwn ni helpu i ddatrys eich problemau, eich helpu i flaenoriaethu ac yna, gobeithio hyd yn oed helpu i’w datrys.

Os oes angen mwy o gymorth, mae gennym ni rwydwaith cryf o arbenigwyr ar draws pob maes ffermio y gallwn ni a chi droi atynt gyda’n gilydd. Byddwn ni’n gwneud y cyflwyniadau ac yn aros gyda chi cyhyd ag yr ydych chi eisiau i ni fod yn rhan o’ch gwaith.

Gallwn ni weithredu fel eiriolwr, gan eich cefnogi i gyfathrebu â’r rhai sy’n ymwneud â’ch problemau a hyd yn oed eich hebrwng mewn cyfarfodydd os gallai hynny helpu. Gallai hyn gynnwys cyflenwyr, cwsmeriaid, banciau, cwmnïau cyllid neu gynghorwyr.

“Ffonais Tir Dewi ac roeddwn i’n teimlo mor falch o rannu fy mhryderon. Roedden nhw’n gefnogol drwy’r amser ac yn fy helpu i weld y ffordd ymlaen. Diolch yn fawr iawn i’r tîm yn Tir Dewi.”

G, a farmer in Carmarthenshire

Scroll to Top