Sut i gael mynediad at gefnogaeth?
Cael CefnogaethRydym yn darparu cefnogaeth i ffermwyr a'u teuluoedd sy'n cael trafferth ac yn mynd trwy gyfnodau anodd.
Efallai eich bod chi’n cael trafferth gydag un broblem sydd wedi bod yn eich poeni, neu efallai eich bod chi wedi’ch llethu gan sawl mater i gyd ar yr un pryd. Beth bynnag fo’ch amgylchiadau, gallwn ni helpu.
Dyma ychydig o broblemau cyffredin y gall ffermwyr eu hwynebu yr ydym yn aml yn dod ar eu traws:
- Teimlo’n ynysig ac ar eich pen eich hun
- Pryderu am archwiliadau sydd ar ddod
- Gweinyddiaeth – baich mawr cofnodion a chofrestriadau
- TB Buchol
- Pryderon ariannol
- Materion cyfreithiol, erlyniad
- Salwch yn y teulu
- Colli rhywun neu rywbeth – boed hynny’n chwalu perthynas, ysgariad, profedigaeth, colli’r fferm neu golli anifeiliaid
- Cynllunio olyniaeth
- Profedigaeth
- Iselder
- Pryder
Beth bynnag yw'r broblem, y mater, y pryder neu'r gofid, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch cefnogi. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau eraill y gallwn gysylltu â nhw ar eich rhan, gan eich cefnogi hyd at y pwynt rydych chi'n teimlo nad oes angen y gefnogaeth honno arnoch chi mwyach.
Mae tair ffordd y gallwch gysylltu â ni:
Ffoniwch ein llinell gymorth rhwng 7:00-22:00
Cwblhewch ein ffurflen hunangyfeirio ar-lein.
“Ffonais Tir Dewi ac roeddwn i’n teimlo mor falch o rannu fy mhryderon. Roedden nhw’n gefnogol drwy’r amser ac yn fy helpu i weld y ffordd ymlaen. Diolch yn fawr iawn i’r tîm yn Tir Dewi.”
G, Ffermwr o Sir Gaerfyrddin