Gwirfoddoli gyda Tir Dewi

Y mae gyda ni dîm gwych o wirfoddolwyr sy’n gwneud gwahanol bethau.  Y mae ganddynt wybodaeth neu brofiad o amaethyddiaeth ac yn gallu cydymdeimlo gydag anawsterau y mae ffermwyr yn eu wynebu.

Y mae sawl ffordd y gallwch gyfrannu at waith Tir Dewi yn cynnwys:

– Taking a turn on the helpline.

  • Cymeryd eich tro ar y llinell gymorth.
  • Gweithio ar achosion, gan gynnwys ymweliadau fferm pan fo angen.
  • Codi ymwybyddiaeth o Tir Dewi drwy gyflwyniadau, dosbarthu taflenni a phosteri, cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu erthyglau, cyfweliadau radio.
  • Darparu hyfforddiant.
  • Ymweld â sioeau lleol/ marchnadoedd anifeiliaid byw.
  • Gwaith cyfieithu.
  • Cyllid.
  • TG.
  • Codi arian.

Os hoffech chi wybod mwy am fod yn wirfoddolwr gyda Tir Dewi, darllenwch ein disgrifiad o rôl gwirfoddolwr neu gysylltwch ag un o’n Rheolwyr Rhanbarthol.

Fel gwirfoddolwr Tir Dewi gallwch ddewis eich lefel o ymwneud sy’n gweddu i chi.  Yr ydym yn cynnig  cyfleoedd hyfforddiant rheolaidd, cylchlythyr gwirfoddolwyr chwarterol ac yn talu costau teithio.

Ymunwch â’n tîm gwych o wirfoddolwyr drwy lenwi Ffurflen Gais Gwirfoddoli isod.  Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

%d