NFU Mutual Charitable Trust
Yn 2021, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual ein synnu gyda rhodd anhygoel i’n cefnogi drwy gyfnod anodd Covid ac i’n galluogi i ateb y galw cynyddol gan ffermwyr Cymru. Roedd yn wych derbyn hyn gan sefydliad sydd mor agos gysylltiedig â byd amaeth, gan ein bod yn teimlo ei fod nid yn unig yn rhodd, ond hefyd yn gydnabyddiaeth ein bod yn darparu gwasanaeth sydd mawr ei angen.
The Church in Wales (Diocese of St. Davids)
Un o’n cyllidwyr gwreiddiol. Yn unol â’i ethos Cristnogol, mae Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Tyddewi) yn darparu cefnogaeth nid yn unig i ffermwyr sy’n Gristnogion, ond i bob ffermwr sydd ei angen, waeth a oes ganddynt ffydd ai peidio. Nid yw pob un o’n gwirfoddolwyr yn Gristnogion.
Royal Countryside Fund
Hefyd yn gyllidwr gwreiddiol sydd wedi aros gyda ni ac wedi ein cefnogi dro ar ôl tro. Mae Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III yn gefnogwr brwd o gefn gwlad, amaethyddiaeth a chymunedau gwledig, gan sefydlu’r gronfa hon yn 2010 i wella rhagolygon ffermydd ac ansawdd bywyd gwledig.
The National Lottery
Ar ôl gweld ein gwaith ac asesu ein cynlluniau, mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn hael iawn gyda’i chymorth ariannol, gan ein galluogi i ddatblygu prosiectau newydd ac ymestyn i ardaloedd newydd.
The Rank Foundation, Time To Shine Programme
Ymddiriedolaeth Cymunedol Côd-post
Mae Ymddiriedolaeth Cymunedol Côd-post wedi chwarae rhan allweddol i gynnal ein gwasanaethau craidd, i’n galluogi i ddarparu cyngor cyfricachol, cefnogaeth emosiynol, ac arweiniad ymarferol i ffermwyr a chymunedau gwledig ar draws Cymru.
Sefydliad Moondance
Mae Tir Dewi wedi bod yn ffodus i gael ein hariannu gan Sefydliad Moondance i’n galluogi i ymestyn ein gwasanaeth i Ogledd-Ddwyrain Cymru.
Chuckling Goat
Rydym yn falch o gael cefnogaeth Chuckling Goat, y mae eu nawdd hael yn darparu dillad brandiedig i’n staff a’n gwirfoddolwyr. Mae ymrwymiad Chuckling Goat i lesiant yn cyd-fynd yn agos â’n gwerthoedd ein hunain, ac mae eu buddsoddiad yn ein pobl yn sicrhau bod y rhai ar reng flaen ein gwaith wedi’u cyfarparu’n dda, yn cael eu cydnabod ac yn barod i helpu ble bynnag y bo angen.