Ar gael 365 diwrnod y flwyddyn

0800 121 47 22

Cefnogaeth Gwbl Gyfrinachol

Yn y Gymraeg a’r Saesneg

Ein Partneriaid a Gefnogodd
e64b4 charitable trust logo

NFU Mutual Charitable Trust

Yn 2021, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual ein synnu gyda rhodd anhygoel i’n cefnogi drwy gyfnod anodd Covid ac i’n galluogi i ateb y galw cynyddol gan ffermwyr Cymru. Roedd yn wych derbyn hyn gan sefydliad sydd mor agos gysylltiedig â byd amaeth, gan ein bod yn teimlo ei fod nid yn unig yn rhodd, ond hefyd yn gydnabyddiaeth ein bod yn darparu gwasanaeth sydd mawr ei angen.

cow logo

The Church in Wales (Diocese of St. Davids)

Un o’n cyllidwyr gwreiddiol. Yn unol â’i ethos Cristnogol, mae Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Tyddewi) yn darparu cefnogaeth nid yn unig i ffermwyr sy’n Gristnogion, ond i bob ffermwr sydd ei angen, waeth a oes ganddynt ffydd ai peidio. Nid yw pob un o’n gwirfoddolwyr yn Gristnogion.

the royal countryside fund logo

Royal Countryside Fund

Hefyd yn gyllidwr gwreiddiol sydd wedi aros gyda ni ac wedi ein cefnogi dro ar ôl tro. Mae Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III yn gefnogwr brwd o gefn gwlad, amaethyddiaeth a chymunedau gwledig, gan sefydlu’r gronfa hon yn 2010 i wella rhagolygon ffermydd ac ansawdd bywyd gwledig.

3 e1768553947431

The National Lottery

Ar ôl gweld ein gwaith ac asesu ein cynlluniau, mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn hael iawn gyda’i chymorth ariannol, gan ein galluogi i ddatblygu prosiectau newydd ac ymestyn i ardaloedd newydd.

2 e1768554044556

The Rank Foundation, Time To Shine Programme

Daethom ynghyd ag wyth elusen arall sy’n gweithredu ledled Cymru i ffurfio Llechi, Glo a Chefn Gwlad. Cafodd hyn ei ariannu wedyn gan raglen Time to Shine, gan ddarparu intern i bob un ohonom i weithio gyda ni ar gyflog byw wedi’i ariannu’n llawn.
postcode community trust

Ymddiriedolaeth Cymunedol Côd-post

Mae Ymddiriedolaeth Cymunedol Côd-post wedi chwarae rhan allweddol i gynnal ein gwasanaethau craidd, i’n galluogi i ddarparu cyngor cyfricachol, cefnogaeth emosiynol, ac arweiniad ymarferol i ffermwyr a chymunedau gwledig ar draws Cymru.

 
moon+dance+final 001

Sefydliad Moondance

Mae Tir Dewi wedi bod yn ffodus i gael ein hariannu gan Sefydliad Moondance i’n galluogi i ymestyn ein gwasanaeth i Ogledd-Ddwyrain Cymru.

 
chuckling goat

Chuckling Goat

Rydym yn falch o gael cefnogaeth Chuckling Goat, y mae eu nawdd hael yn darparu dillad brandiedig i’n staff a’n gwirfoddolwyr. Mae ymrwymiad Chuckling Goat i lesiant yn cyd-fynd yn agos â’n gwerthoedd ein hunain, ac mae eu buddsoddiad yn ein pobl yn sicrhau bod y rhai ar reng flaen ein gwaith wedi’u cyfarparu’n dda, yn cael eu cydnabod ac yn barod i helpu ble bynnag y bo angen.

 
Ymhlith eraill mae Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector i Gymru a Chronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru, a sefydlwyd mewn ymateb i argyfwng COVID-19; Uchel Siryf Dyfed; Ymddiriedolaeth NFU Mutual; Sefydliad Bluestone; Sefydliad Elusennol Henhurst, a llawer iawn mwy. Hefyd, amrywiol unigolion sydd wedi trefnu digwyddiadau codi arian – o arwerthiannau i heriau ffitrwydd, a hyd yn oed eillio eu pennau’n fyw ar YouTube. Rydych chi i gyd yn wych!
Scroll to Top