Ymunwch â Tir Dewi fel ein Cydlynydd Clwb Ffermwyr
Ydych chi’n angerddol dros gefnogi cymunedau amaethyddol a dod â phobl at ei gilydd?
Mae Tir Dewi yn chwilio am Gydlynydd Clwb Ffermwyr Cymraeg ei iaith i gefnogi ein clybiau ffermwyr ledled Gogledd Cymru. Mae hon yn swydd barhaol ran-amser (7.5 awr yr wythnos) ar gyfer rhywun sy’n byw yn neu’n agos at ardal Caernarfon.
Mae ein Clybiau Ffermwyr yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ffermwyr gyfarfod, cymdeithasu a chefnogi ei gilydd. Ar hyn o bryd mae gennym glybiau yn Ynys Môn, Caernarfon, Llŷn a Chlwyd, ac rydym yn chwilio am rywun i helpu i gryfhau’r grwpiau hyn, cefnogi datblygiad clybiau newydd a hyrwyddo cynaliadwyedd hirdymor.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Yn siarad Cymraeg a Saesneg yn rhugl ac yn hyderus
- Yn deall bywyd ffermio a chymunedau gwledig
- Yn mwynhau cwrdd â phobl ac annog cyfranogiad
- Yn drefnus, yn ddibynadwy ac yn gallu gweithio'n annibynnol
- Â thrwydded yrru a mynediad at gerbyd
Mae hon yn gyfle delfrydol i rywun sydd â sgiliau cryf ym maes ymgysylltu cymunedol, dealltwriaeth o fywyd ffermio ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth ystyrlon i gymunedau gwledig Cymru.
Oes gennych ddiddordeb, neu a ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n berffaith ar gyfer y rôl hon?
Rhannwch hwn gydag unrhyw un a allai fod â diddordeb.