Yn aml, sgwrs yw'r cam cyntaf tuag at ddatrysiad. Rydym yn cynnig cymorth cyfrinachol, heb farnu, gan wirfoddolwyr hyfforddedig sydd â phrofiad ym maes amaethyddiaeth.
Yn fyr
Llinell gymorth gyfrinachol am ddim ar gael
Cefnogi Ffermwyr a Teuluoedd
Mae'n bwysig iawn i ni fod pawb rydym yn eu cefnogi yn teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel. Un ffordd o wneud hyn yw drwy sicrhau bod yr holl gymorth rydym yn ei gynnig, a phopeth sydd wedi'i drafod, yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn gwneud unrhyw beth heb ganiatâd y person rydym yn ei gefnogi.
Rydym yn cynnig clust wrandaw a chydymdeimladol i chi, mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol. Mae gan ein holl wirfoddolwyr gysylltiad â byd amaeth mewn rhyw ffordd, felly gallant wir ddeall ac uniaethu â’r anawsterau dyddiol y mae ffermwyr yn eu hwynebu. Nid ydym yma i farnu; rydym yma i’ch cefnogi a’ch arwain, ac i’ch helpu i ddod o hyd i atebion i’ch problemau.
Nid ydym yn honni bod gennym yr ateb i bopeth, ond yn aml, sgwrs yw’r cam cyntaf tuag at ddatrysiad – y broses o agor i fyny a rhannu’r hyn sy’n digwydd yn fewnol.
Gallwn eich helpu i ddatrys cymhlethdodau eich problemau, blaenoriaethu, ac yn y pen draw, eu datrys.
Os oes angen mwy o gymorth, mae gennym restr o gysylltiadau ag asiantaethau ac elusennau eraill rydym yn gweithio’n agos â nhw. Gallwn wneud y cysylltiadau ar eich rhan ac aros gyda chi cyhyd ag y dymunwch i ni fod yn rhan o’r broses.
Gallwn fod yn cefnogi chi a’ch teuluoedd am flynyddoedd lawer, ond mewn achosion eraill, gall y broblem gael ei datrys ar ôl ychydig o alwadau ffôn neu un ymweliad.
“Ffoniais i Tir Dewi ac roeddwn i’n teimlo cymaint o ryddhad wrth rannu fy mhryderon. Roeddent yn gefnogol drwy’r amser ac yn fy helpu i weld y ffordd ymlaen. Diolch yn fawr iawn i’r tîm yn Tir Dewi.”
G, a farmer in Carmarthenshire