Ar gael 365 diwrnod y flwyddyn

0800 121 47 22

Cefnogaeth Gwbl Gyfrinachol

Yn y Gymraeg a’r Saesneg

Llongyfarchiadau i’r Parchedig Llewelyn Moules Jones

Llongyfarchiadau i’n hymddiriedolwr, y Parch Llywelyn Moules Jones.
Mae Tir Dewi’n falch i longyfarch y Parch Llewelyn Moules Jones sy’n un o chwe uwch glerigwr yn yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi eu penodi yn Gaplaniaid Anrhydeddus i’w Fawrhydi y Brenin.
 
Dathlwyd eu penodiad gyda gwasanaeth arbennig yn y Capel Brenhinol ym Mhalas Sant Iago fel rhan o ddigwyddiadau Dewi Sant, Nawddsant Cymru.
Wedi’i fagu yn Sir Fôn, ac yn sgîl ei waith fel Eiriolwr Bywyd Gwledig yn Esgobaeth Bangor, mae ymrwymiad Llew i weinidogaeth wledig yn ddwfn, ac mae’n adlewyrchu hyn yn ei rôl o fewn Tir Dewi. Fel ymddiriedolwr a gwirfoddolwr mae’n cynnig cefnogaeth gadarn, mewnwelediad a chydymdeimlad i deuluoedd amaethyddol.
 
Rydym yn falch o nodi’r penodiad anrhydeddus hon, gan ddiolch am gyfraniad Llew i’n gwaith ac i’r gymuned amaethyddol yn ehangach.
rev blog1
rev blog2
Share the Post:

Related Posts

Scroll to Top